Mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr yn credu fod toriadau’r Llywodraeth yn “annheg ac eithafol”, yn ôl dau bôl piniwn newydd.

• Yn ôl pôl Populus yn y Times – mae 58% o’r bobol a gafodd eu holi yn credu y bydd effeithiau’r toriadau yn annheg gyda 20% o bleidleiswyr yn fwy pesimistaidd nag oedden nhw ym mis Mehefin.

• Yn ôl arolwg yr ICM yn y Guardian, mae 48% yn credu fod y toriadau’n mynd yn rhy bell, 36% yn credu eu bod yn iawn ac 8% eisiau iddyn nhw fynd ymhellach.

Mae’r un pôl yn dangos fod y Ceidwadwyr yn ôl ar y blaen ar ôl toriadau’r Canghellor George Osborne a chynadleddau’r pleidiau.

Maen nhw bellach ar 39 (4 yn uwch na’r pôl diwetha’), Lafur ar 36 (1 yn is) a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 16 (2 yn is).

Yn ôl yr atebion, dim ond 55% o’r rhai a bleidleisiodd i’r Democratiaid yn yr Etholiad Cyffredinol sy’n dal i’w cefnogi.

‘Methu ag amddiffyn y bregus’

Mae mwyafrif yr atebwyr ym mhôl y Times yn dweud nad yw’r Llywodraeth yn llwyddo i amddiffyn y bobol fwya’ bregus.

Mae’r arolwg hwnnw’n awgrymu bod Llafur fymryn ar y blaen i’r Ceidwadwyr.

Llun: George Osborne (M.Holland CCA 3.0)