Mae gwasanaeth tân Llundain wedi eu beirniadu’n hallt ar ôl iddynt gyhoeddi eu bod nhw am fynd ar streic ar noson tân gwyllt.

Dyna un o nosweithiau brysuraf y flwyddyn i’r gwasanaeth tân, ond mae’r Undeb Brigadau Tân wedi dweud y bydden nhw’n streicio o 10am ar 5 Tachwedd tan 9am ar 7 Tachwedd.

Maen nhw’n anhapus ynglŷn a shiftiau newydd a’r posibilrwydd y bydd nifer o ddiffoddwyr tan yn colli eu swyddi.

Dywedodd y gweinidog gwasanaethau tân, Bob Neill, bod y diffoddwyr tân wedi dewis adeg fwyaf peryglus y flwyddyn i fynd ar streic.

“Maen nhw wedi amseru’r streic er mwyn rhoi pobol Llundain mewn cymaint o beryg a sy’n bosib,” meddai Bob Neill.

“Mae’r streic yn anystyriol a sinigaidd ac ni fydd yn gwneud lles i enw da’r gwasanaethau tân.

“Fydd y cyhoedd ddim yn teimlo ei fod o’n fodd cyfrifol o gynnal anghydfod diwydiannol. Roeddwn i’n meddwl bod bygythiadau fel hyn yn perthyn i’r gorffennol.”

Streic arall

Daw’r cyhoeddiad neithiwr yn dilyn streic wyth awr dydd Sadwrn a cynlluniau ar gyfer streic arall dydd Llun nesaf, ar 1 Tachwedd.

Mae’r undeb yn dweud bod diffoddwyr tân yn wynebu cael eu diswyddo os nad ydyn nhw’n cytuno i’r shifftiau newydd.

“Dydan ni ddim eisiau gweithredu fel hyn ond does dim dewis gyda ni. Y dewis arall ydi gadael i’r cyflogwyr drin y diffoddwyr tân fel clytiau llawr,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Matt Wrack.

“Mae diogelwch tymor hir pobol Llundain yn dibynnu ar wasanaeth tân hyserus, wedi ei hyfforddi’n dda.”

(Llun: PA Images)