Mae’r heddlu’n cael gynnau mwy grymus a hyfforddiant ychwanegol i baratoi ar gyfer ymosodiad posib ar Brydain.

Mae penaethiaid y gwasanaethau diogelwch yn cynnal cyfres o ymarferion gwrthderfysgaeth gyda’r heddlu’n hyfforddi ochr yn ochr ag unedau o’r SAS, meddai’r BBC.

Fe ddaw’r datblygiad hwn wedi honiadau bod swyddogion cudd wedi cael gwybod am fwriad carfannau sy’n gysylltiedig ag al-Qaida i ymosod ar wledydd Prydain.

Yr honiad yw y byddai’r ymosodiad yn debyg i gyrchoedd marwol ym Mumbai, India, ddwy flynedd yn ôl, pan gafodd 166 o bobol eu lladd a channoedd eu hanafu.

Os yw’r honiadau’n gywir, mae dinasoedd yn Ffrainc a’r Almaen hefyd wedi’u targedu yn y cynllun terfysgaeth.

‘Hyfforddiant priodol’

Fe ddywedodd y cyn weinidog diogelwch, yr Arglwydd West, wrth y BBC bod angen i swyddogion heddlu gael “hyfforddiant priodol” i ddelio ag ymosodiadau terfysgol tebyg.

Mae’r rhybudd am ymosodiad terfysgol ar Brydain yn parhau i fod yn “ddifrifol” – yr ail radd uchaf.

Llun: Peth o’r difrod wedi’r ymosodiad ym Mumbai (Manoj Nair CCA 2.0)