Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn ystyried galw ar bobol i wrthod talu eu trwyddedau teledu – yn brotest yn erbyn bwriad y Llywodraeth i roi S4C o dan adain y BBC.
Ond fe fydd un o gyn benaethiaid y sianel yn galw am ymchwiliad i’r ffordd y mae Awdurdod S4C wedi bod yn gweithredu.
Fe fydd cynnig i wrthod talu’r drwydded yn cael ei drafod yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ddydd Sadwrn.
Mae’r Gymdeithas yn cyhuddo’r Llywodraeth o geisio “lladd annibyniaeth S4C” trwy ei “chyfuno” gyda’r Gorfforaeth. Yn ôl Is-gadeirydd y mudiad, mae’n “anochel” y bydd y sianel Gymraeg yn diflannu.
Os bydd y cynnig yn cael ei basio, fe fyddai’r brotest yn dechrau ar ddiwrnod cynta’ mis Rhagfyr, gan atgyfodi un o ymgyrchoedd mwya’r Gymdeithas yn ôl yn yr 1970au.
‘Llwybr i ddinistr’
“Mae’r Llywodraeth wedi rhoi darlledu Cymraeg ar lwybr i ddinistr,” meddai’r Is-gadeirydd, Rhys Llwyd. “Os bydd y cynlluniau a’r toriadau’n digwydd, dechrau’r diwedd i S4C fydd hi.
“Os nad ymgyrchwn ni’n erbyn y toriadau i S4C ynghyd â chynlluniau eraill y llywodraeth sy’n mynd i rwygo cymunedau ar draws Cymru, mae’n edrych yn ddu iawn arnon ni.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am annibyniaeth olygyddol ac ariannol i S4C ac fe fyddan nhw’n cynnal rali genedlaethol yng Nghaerdydd ar 6 Tachwedd.
Angen ymchwiliad, meddai Geraint Stan
Mae ail Brif Weithredwr S4C wedi galw am ymchwiliad i’r ffordd y mae’r sianel wedi cael ei rheoli.
Mae hynny’n angenrheidiol o ran y dyfodol yn ogystal â’r hyn sydd wedi bod, yn ôl Geraint Stanley Jones.
Fe fydd yn dweud wrth y rhaglen deledu Week In Week Out heno bod angen “dod â hygrededd ac awdurdod yn ôl” i S4C.
Mae ei sylwadau’n dilyn ymosodiad ffyrnig ar Awdurdod y sianel gan yr Aelod Senedd a Chynulliad, Alun Cairns, sydd wedi cyhuddo’r penaethiaid o “danseilio” S4C.