Meri Huws
Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfodol S4C yn un “cwbwl sarhaus,” a bydd yn effeithio’n andwyol ar yr iaith, meddai Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw.
“Mae S4C yn rhan hanfodol o’r strategaeth gyffredinol i ddiogelu’r Gymraeg. Dros y degawdau diwethaf, fe ddaeth S4C â statws i’r iaith, a hynny drwy gyfoeth y rhaglenni a’r ffilmiau yr oedd yn ei darlledu,” yn ôl Meri Huws.
Ond, lle’r oedd corff annibynnol yn gwneud penderfyniadau darlledu yn seiliedig ar arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol, bellach mae “dryswch llwyr,” meddai.
“Trwy gynnal eu trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig yn Llundain, mae’r Llywodraeth Brydeinig wedi tanseilio a sarhau holl ddarlledu yng Nghymru.”
Fe ddywedodd y cadeirydd bod ymrwymiadau’r Llywodraeth wedi bod yn gefnogol i’r Gymraeg yn hanesyddol ond bellach eu bod wedi “ein hamddifadu o unrhyw gynllunio hirdymor ar gyfer darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg, a’n cyfyngu i ryw dair neu bedair blynedd yn unig.”
Wythnos i “dynnu’r plwg”
“Fe gymerodd hi flynyddoedd o ymgyrchu i sefydlu’r Sianel, a bu hi’n gwasanaethu pobl Cymru i safon uchel am wyth mlynedd ar hugain. Cwta wythnos a gymerodd hi i’r Llywodraeth Brydeinig dynnu’r plwg. Mae’n anghredadwy.”
Ond, yn ôl Meri Huws, yr hyn sy’n “peri’r pryder mwyaf” yw bod hyn yn digwydd yng nghanol llu o newidiadau eraill i’r iaith.
Ymhlith y newidiadau hyn – “dileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a pheidio â gwneud y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer swyddi Is-ganghellor ym Mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.”
“Mae hi’n gyfnod ansicr ar y Gymraeg. Mae’r pethau hynny a oedd yn ymddangos fel eu bod yma i aros bellach yn cael eu tynnu oddi arnom, ac mae pethau o’r herwydd yn ymddangos yn ddu iawn ar yr iaith,” meddai Meri Huws.