Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud ei fod o’n disgwyl gêm ardderchog pan fydd yr Elyrch yn herio QPR yn Stadiwm Liberty heno.

Fe fydd y clwb Cymreig yn wynebu tîm sydd ar frig tabl y Bencampwriaeth gyda record ddiguro yn eu 11 gêm gyntaf.

Ond fe fydd Abertawe hefyd yn hyderus wrth iddynt geisio amddiffyn record ddiguro gartref sy’n mynd ‘nôl i fis Mawrth.

“Fe ddylai fod yn gêm ardderchog, ac fe fydd yn brawf caled o allu’r tîm,” meddai Brendan Rodgers.

“Mae’n gêm fawr – y cyntaf yn y tabl yn erbyn y pedwerydd- ac r’yn ni’n edrych ymlaen at gael chwarae.

“Mae gan QPR carfan gref iawn. Mae timau Neil Warnock bob tro yn gweithio’n galed ac maen nhw wedi ymateb yn dda iddo.

“Ond r’yn ni’n gryf adref ac mae gen i ffydd yn y chwaraewyr.”

Newyddion y tîm

Fe fydd Mark Gower yn absennol ar ôl anafu llinyn y gar, ond mae Joe Allen yn dychwelyd yn dilyn anaf tebyg.

Fe allai chwaraewr newydd yr Elyrch, Marvin Emnes cael ei gynnwys yn y garfan ar ôl ymuno ar fenthyg oddi wrth Middlesborough ddoe.