Mae rheolwr Caerdydd wedi datgelu iddo beidio â chynnwys ymosodwr Cymru, Craig Bellamy yn y tîm dros y penwythnos er ei fod yn ffit i chwarae.
Mae disgwyl i Bellamy chwarae yn erbyn Coventry yn y Ricoh Arena heno ar ôl gwella o anaf a’i cadwodd allan o gemau rhagbrofol Cymru yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir.
Yn ôl Dave Jones, mae’n rhaid i’r clwb ofalu nad ydyn nhw’n cynnwys y Cymro yn rhy aml oherwydd y problemau gyda’i bengliniau.
“Allen ni ddim dibynnu ar Craig ym mhob gêm,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.
“R’yn ni wedi ennill gemau hebddo ac r’yn ni’n uchel yn nhabl y bencampwriaeth.
“Y nod yw ei reoli’n iawn er mwyn cael y gorau ohono. Fe fyddai’n risg chwarae tair gêm mewn wythnos.”
Mae Dave Jones yn credu y bydd rhaid i’w dîm fod ar eu gorau i lwyddo yn erbyn Coventry sy’n seithfed yn y tabl, yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Ipswich dros y penwythnos.
“Fe fydd rhaid i ni fod ar ein gorau. Ond does yna ddim rheswm pam na allen ni wneud hynny gan ein bod ni’n llawn hyder,” nododd Dave Jones.
Newyddion y tîm
Mae yna amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd Stephen McPhail ar gyfer y gêm ac fe fydd yn wynebu prawf ffitrwydd hwyr.
Mae Chris Riggott a Danny Drinkwater yn dal i fod yn absennol, ond mae Dave Jones yn obeithiol y bydd y ddau yn ôl erbyn yr wythnos nesaf.