Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley, wedi dweud bod rhaid i Gymru ennill o leiaf dwy o gemau cyfres rhyngwladol yr hydref.

Fe fydd Cymru’n dechrau’r gyfres yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ar 6 Tachwedd cyn wynebu De Affrica, Fiji a Seland Newydd.

Fe fydd tîm Warren Gatland yn gobeithio gwella eu record yn erbyn timau mawr hemisffer y de ar ôl ennill dwy o’u 31 gêm ddiwethaf yn erbyn y Wallabies, Springboks a’r Crysau Duon.

“R’yn ni’n anelu at ennill o leia’ dwy gêm. Roedden ni’n siomedig i golli i Dde Affrica dros yr haf ar ôl bod ar y blaen 16-3,” meddai Howley.

“Roedd ein perfformiadau yn Seland Newydd, yn enwedig yr ail brawf, yn well.

“Mae Warren wedi dweud y bydd ein chwaraewyr yn dysgu trwy chwarae yn erbyn y gorau a d’yn ni ddim yn mynd i gymryd Fiji yn ganiataol, gan ein bod yn gwybod o brofiad beth maen nhw’n gallu ei wneud i ni.”

Newid rheolau

Mae Howley yn gobeithio y bydd newid mewn rheolau sy’n ffafrio’r tîm sy’n ymosod yn ardal y dacl yn rhoi fwy o gyfle i chwaraewyr fel Shane Williams a Leigh Halfpenny ddangos eu doniau.

“Mae’n anhygoel fel mae’r gêm wedi newid dros y 12 mis diwethaf. Rwy’n credu bod ystadegau’r Tair Gwlad yn dangos bod 40% o’r ceisiau gafodd eu sgorio wedi dechrau o fewn hanner y tîm oedd yn ymosod, o’i gymharu gyda rhywbeth fel 9% yn 2009.

“Ond mae hefyd angen dod a cydbwysedd i’r chwarae.”