Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgelu canlyniadau holiadur sy’n dangos fod 29% o’r rheini gafodd fynediad am ddim i’r maes dydd Sul eleni yn awyddus i ddysgu’r Gymraeg.
Defnyddiwyd 91% o’r 10,000 o docynnau rhad ac am ddim ar gyfer y dydd Sul, meddai’r Eisteddfod. Cafodd y cynllun ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad.
Yn ôl yr holiadur roedd 56% o’r rheini a ddefnyddiodd eu tocynnau wedi dod i’r Eisteddfod am y tro cyntaf eleni, a 81% yn awyddus i ddod i’r Eisteddfod eto yn y dyfodol.
Dywedodd 57% o bobol eu bod wedi newid eu barn am yr Eisteddfod yn dilyn eu hymweliad eleni, ac fe wnaeth 54% o’r ymwelwyr ddatgan bod eu hymweliad wedi cael effaith bositif ar eu hagwedd at yr iaith. Roedd 81% yn teimlo bod digon neu fwy na digon i’w wneud ar y Maes.
Cynhaliwyd Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yng Nglyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst eleni.
Dywedodd yr Eisteddfod bod y cynllun mynediad am ddim i’r Maes ddydd Sul 1 Awst yn “llwyddiant ysgubol”. Roedd dros 25,000 o bobol wedi troedio’r maes y diwrnod hwnnw.
“Roedd hwn yn ddiwrnod arbennig iawn gydag awyrgylch hwyliog a chyfeillgar. Mawr yw ein diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru am ei ariannu,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Rydym yn astudio canfyddiadau [yr holiadur] yn ofalus ac yn sicr o ddefnyddio rhai o’r awgrymiadau yn y dyfodol. Roedd yr ymateb a gafwyd i’r holiadur yn ardderchog, a’r canlyniadau’n ganmoladwy iawn.”
Dywedodd yr Eisteddfod bod dros 900 o bobol wedi ymateb i’r holiadur ar-lein.
Côr yn parhau tu hwnt i’r Eisteddfod
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod y côr swyddogol a berfformiodd ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr wythnos wedi penderfynu parhau o dan yr enw Côr
y Cymoedd, medden nhw.
Mae Odette Jones, un a fu’n rhan o dîm hyfforddi’r côr cyn yr Eisteddfod, wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Cerdd y côr, gyda Martin Hill yn cyfeilio.
Dylai unrhyw un sydd eisiau ymuno gyda Chôr y Cymoedd fynd i Neuadd Ymarfer Côr Meibion Beaufort bob nos Lun o 19.30-21.00.
“Mae parhad y côr yn enghraifft o’r gwaddol cymunedol a diwylliannol mae’r Eisteddfod yn ei greu drwy ymweld â gwahanol gymunedau ar hyd a lled Cymru,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.