Dylan Iorwerth yn ystyried moeswers y datblygiad mawr na fu…
Stori drist ydi un yr Academi Hyfforddi Filwrol yn Sain Tathan. Nid am ei bod wedi ei gwrthod ond am ei bod yn saga ddigalon o ferch ifanc yn cael ei denu i bechu gan hen ddyn mawr pwerus, ac wedyn yn cael ei gadael yn ddiymgeledd ar y stryd.
Y ferch ifanc, rhag ofn ichi fethu â deall, ydi Cymru. A’r Llywodraeth yn Llundain ydi’r dyn. Ac un o’r elfennau mwya’ digalon o’r cyfan yw bod llawer iawn ohonon ni wedi amau mai fel hyn y byddai pethau’n gorffen.
Ers blynyddoedd, am resymau digon dealladwy, mae gwleidyddion lleol a chenedlaethol yng Nghymru wedi bod yn despret – a dyna’r unig air – i weld datblygiadau newydd yn y maes awyr mawr ym Mro Morgannwg.
Mae Caradog Prichard yn sôn yn Un Nos Ola Leuad am ddyn â golwg fel ci lladd defaid yn ei lygaid. Golwg sbaniel gor-eiddgar sydd wedi bod arnon ni, a’n tafodau’n hongian allan o’n cegau i lawr hyd at ein traed.
Degau o filiynau
Hyd yn oed heb wybod yr holl fanylion, mae’r hyn sydd ar glawr mewn gwahanol adroddiadau’n ddigon i wneud i neb boeni …
Yn ystod y deng mlynedd diwetha’, mae Awdurdod Datblygu Cymru ac wedyn Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario degau o filiynau o bunnoedd ar y syniad o ddenu canolfan filwrol fawr i Saith Tathan a chreu Parc Busnes Aerospace ar gefn hynny.
Y syniad cynta’ oedd siwpyr-hangar DARA – y corff trwsio awyrennau milwrol. Mi wariodd yr Awdurdod Datblygu o leiaf £16 miliwn yn uniongyrchol ar hwnnw (yn ôl adroddiad gan bwyllgor dethol yn Nhŷ’r Cyffredin).
O fewn blwyddyn neu ddwy, roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi newid eu meddwl yn llwyr, ac i ffwrdd yr aeth DARA, gan adael yr hangar ar ôl.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn berchen ar gannoedd o erwau o dir ar y safle (ar ôl talu £12 miliwn i’r Weinyddiaeth Amddiffyn) ac, yn ôl adroddiad gan Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol, dim ond pedwar cwmni a 45 o swyddi oedd wedi eu creu yn y Parc Busnes erbyn 2009.
Fe ddywedodd yr un adroddiad nad oedd y Weinyddiaeth a Llywodraeth Cymru’n deall ei gilydd yn ddigon da nac yn rhannu’r un amcanion. Doedd yr awdurdodau yng Nghymru ddim wedi cael gwybod mewn digon o bryd beth oedd ar droed.
Y gobaith mawr newydd
Y gobaith mawr wedyn oedd yr Academi Hyfforddi … ac mae’r un peth wedi digwydd eto. Doedd dim byd tebyg i 5,000 o swyddi am gael eu creu yno, mae’n wir, ond does dim llawer o argoel o 2,000 yn y Parc Busnes chwaith.
Roedd yna lond dwrn o wleidyddion a chyrff wedi gwrthwynebu’r datblygiad, rhai am resymau lleol, rhai oherwydd yr amgylchedd a rhai am nad oedden nhw eisiau i Gymru ei phuteinio ei hun er mwyn cael swyddi ym maes amddiffyn.
Roedd y consortiwm preifat – Metrix -i ddatblygu’r Academi’n cynnwys cwmnïau gwerthu arfau ac roedd hi’n ymddangos y gallai milwyr o wledydd eraill gael eu hyfforddi yno hefyd.
Yn ystod y cynadleddau gwleidyddol, roedd Metrix wedi bod yn lobïo i gadw’r Academi ac, yn ôl y gwrthwynebwyr lleol, roedd gwleidyddion fel Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Alun Cairns yr AS lleol a Chris Bryant o Lafur wedi cytuno i noddi ciniawau ar eu rhan.
Does ond gobeithio fod y bwyd yn neis.
O, ie … mi fydd angen gwario rhagor o arian cyhoeddus hefyd … ar yr ymchwiliadau i weld be aeth o’i le y tro yma.