Fe fydd y cwest yn agor heddiw i farwolaeth y cerddor Stuart Cable.
Fe fu drymiwr y Stereophonics farw yn ei gartre’ yn Llwydcoed ger Aberdar ym mis Mehefin eleni.
Dyw canlyniadau profion gwenwyn a wnaed arno ar y pryd ddim wedi eu cyhoeddi eto ac fe fu dyfalu’n lleol ei fod wedi tagu ar ôl taflu i fyny yn ei gwsg.
Ac yntau’n un o aelodau gwreiddiol y Stereophonics yn 1992, roedd wedi datblygu gyrfa ar radio a theledu ers iddo adael y band.
Fe fu farw ar ôl noson allan yn ei dafarn leol ac roedd miloedd o bobol ar y stryd ar ddiwrnod ei angladd.
Yn anterth ei yrfa – a’i ddefnydd o ddiod a chyffuriau – roedd wedi dweud nad oedd yn disgwyl gweld ei ddeugain. Fe fu farw ychydig fisoedd ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed.
Llun: Stuart Cable (fishbonesphotography-CCA2.0)