Mae disgwyl y bydd cannoedd o undebwyr Llafur yn teithio o Gymru i Lundain heddiw i brotestio yn erbyn toriadau mewn gwario a swyddi yn y sector cyhoeddus.
Fe fydd tri undeb yn cymryd rhan – Unite, Unison a’r PCS – ac yn lobïo aelodau seneddol ac arglwyddi yn San Steffan.
Fe fydd rali arall yn digwydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ddoe ac maen nhw’n dilyn protest yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn, yn erbyn y bwriad i gau’r swyddfa basports yno.
Fe alwodd Ysgrifennydd undeb gweision sifil y PCS yng Nghymru am i weithwyr fynd â’r dicter oedd wedi ei ddangos bryd hynny a’i ddwy i Lundain.
‘Toriadau ciaidd’
Mae’r brotest heddiw’n digwydd y diwrnod cyn i’r Canghellor, George Osborne, gyhoeddi rhai o benawdau’r toriadau mewn gwario ar gyfer y pedair blynedd nesa’ ar ôl Arolwg Gwario Cynhwysfawr y Llywodraeth.
“Fe fydd toriadau ciaidd yn difrodi’r economi y tu hwnt i adnabyddiaeth,” meddai Paul O’Shea, Ysgrifennydd Unison Cymru. “Fe fyddan nhw’n mynd ag arian oddi ar wasanaethau er bod mwy o angen amdanyn nhw nag erioed.”
“Mae’r Llywodraeth ConDem yn defnyddio’r argyfwng economaidd yn gyfle i ymosod ar y wladwriaeth les. Dyw undebau llafur ddim yn barod i hynny ddigwydd heb ei herio.”
Llun: Blog yr AS lleol Paul Flynn yn dangos rhan o’r orymdaith yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn