Fe fydd pobol Bro Morgannwg yn aros i weld a fydd gwybodaeth fanwl heddiw am ddyfodol yr Academi Hyfforddi Filwrol yn Sain Tathan.

Mae’n bosib y daw manylion am ddyfodol y cynllun wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi canlyniadau’r Arolwg Strategol i Amddiffyn a Diogelwch.

Mae yna ddyfalu y bydd y cynllun gwerth £14 biliwn yn cael ei leihau, neu y gallai hyd yn oed gael ei ddileu’n llwyr wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn dorri 8% ar ei gwario.

Mae mwyafrif gwleidyddion Cymru wedi cefnogi’r syniad i ganoli hyfforddi milwrol ar y maes awyr ym Mro Morgannwg ond mae rhai grwpiau lleol yn gwrthwynebu – ar sail heddwch ac amgylchedd.

Maen nhw’n dadlau mai dim ond ychydig gannoedd o swyddi newydd a fyddai’n dod i bobol leol yn sgil y datblygiad preifat gan gonsortiwm o’r enw Metrix.

Llun: Cynllun Sain Tathan