Mae disgwyl i’r Llywodraeth gael gwared ar un o longau rhyfel enwoca’r llynges a thorri ar nifer awyrennau rhyfel.

Ac, yn ôl papurau yn yr Alban lle maen nhw’n cael eu hadeiladu, fe fydd un o ddwy long awyrennau newydd yn cael ei gosod o’r neilltu ar ôl dim ond tair blynedd.

Cael gwared ar yr Ark Royal yw un o’r penderfyniadau sy’n cael eu disgwyl wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi canlyniadau’r Arolwg Strategol ar Amddiffyn a Diogelwch.

Mae dyfalu hefyd y gallai’r broses o ddatblygu arfau niwclear newydd yn lle Trident gael eu gohirio am bum mlynedd.

Dim llong awyrennau

Mae’r penderfyniad i gael gwared ar yr Ark Royal yn golygu y gallai gwledydd Prydain fod heb longau awyrennau am tua phum mlynedd a heb awyrennau’n hedfan oddi arnyn nhw am bron ddeng mlynedd.

Mae dwy long yn cael eu hadeiladu yn yr Alban ar hyn o bryd ond fydd y gynta’ o’r rheiny ddim ar gael tan 2016 ac, yn ôl papur y Scotsman, dim ond am dair blynedd y bydd yn gweithredu cyn cael ei rhoi o’r neilltu neu’n cael ei gwerthu.

Gyda bwriad hefyd i dorri ar nifer awyrennau rhyfel, mae’n debygol mai dim ond hofrenyddion fydd yn hedfan oddi arni.

Yn ôl adroddiadau eraill, fe fydd yr awyrennau newydd yn addas ar gyfer awyrennau rhai o gynghreiriaid gwledydd Prydain.

Torri nifer milwyr

Mae disgwyl hefyd y bydd nifer y milwyr yn cael ei dorri yn y tri gwasanaeth – y llynges, yr awyrlu a’r fyddin – er y gallai rhai o’r rheiny gael eu gohirio tan ddiwedd y rhyfel yn Afghanistan.

Er bod y toriadau’n fwy nag yr oedd penaethiaid y lluoedd arfog yn fodlon ei dderbyn, maen nhw hefyd yn llai na gofynion y Trysorlys.

Y stori sydd ar led yw bod y Prif Weinidog, David Cameorn, wedi ymyrryd i gadw’r toriadau i 8% yn hytrach na 10%.

Llun: Ark Royal (Ian Visits CCA 3.0)