Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS, wedi beirniadu cynlluniau honedig i dorri’r gyllideb cymorth cyfreithiol.

Roedd yn ymateb i adroddiadau fod cymorth cyfreithiol yn debyg o gael ei dorri fel rhan o doriadau o tua 30% i’r Adran Gyfiawnder yn yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr dydd Mercher.

Mae cymorth cyfreithiol ar hyn o bryd yn talu i gyfreithwyr gynghori pobl ar broblemau cyfreithiol gan gynnwys achosion teulu, dyled a throi allan o dai.

Dywedodd Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, bod y toriadau £2 biliwn “yn tanseilio holl syniad cyfiawnder lleol ac yn bygwth bodolaeth nifer fawr o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru”.

“Mae’n warth o beth fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwriadu torri cut cymorth cyfreithiol ar adeg pan fo miloedd o bobl yn wynebu problemau ariannol dybryd a straen cynyddol,” meddai Elfyn Llwyd.

“Wnaiff hyn ond ychwanegu at y straen sy’n cael ei deimlo gan gannoedd o gwmnïau cyfreithiol annibynnol ledled Cymru.

“Yn hytrach na thargedu moeseg gwaith y cyfreithwyr corfforaethol bras eu byd yn Ninas Llundain, dewisodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ymosod ar gwmnïau cyfreithiol annibynnol, sydd yn asgwrn cefn hanfodol cyfiawnder lleol yn ein cymunedau yng Nghymru.

“Bydd cwmnïau bychain ledled Cymru yn teimlo’r effaith ar waethaf addewidion slic Mr Cameron i amddiffyn busnesau bychain.”

Ergyd ariannol

Ychwanegodd Elfyn Llwyd ei bod hi “eisoes yn fain” ar gyfreithwyr ac y byddai tori’r gyllideb cymorth cyfreithiol yn “ergyd bellach”.

“Mae’r gyfradd a gaiff cyfreithwyr am achosion troseddo, yr un fath yn awr ag yr oedd ym 1992 – sy’n golygu nad yw wedi codi ers deunaw mlynedd,” meddai.

“Fedra’i ddim gweld sut mae modd galw’r cynigion hyn yn rhai teg pan welwn gyfreithwyr corfforaethol dinas Llundain yn dal i gadw eu bonysys hael. Yr un hen stori syd dyma – pobl barchus a gweithgar yn gorfod talu am ffolinebau miliwnyddion.

“Mae hyn yn dod ar ben y cynllun i gau llysoedd ynadon ar hyd a lled Cymru. Yn amlwg, dyw cyfiawnder lleol ddim o bwys o gwbl i lywodraeth y DG ac mi fuaswn yn annog llywodraeth y ConDemiaid i ail-feddwl am y cynlluniau carbwl hyn.”