Fe fydd streiciau yn achosi mwy o helbul yn Ffrainc yfory wrth i ymgyrchwyr yn erbyn newid yr oed ymddeol fygwth atal llif yr olew i’r gorsafoedd petrol ac aflonyddu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae cwmnïau wedi torri’n ôl ar faint o awyrennau fydd yn hedfan i’r wlad yfory gan ddisgwyl na fydd meysydd awyr yn gweithredu drwy’r dydd.

Yn y cyfamser mae gweithwyr yn y diwydiant olew wedi gwrthod dychwelyd i’r gwaith ac mae yna ansicrwydd ynglŷn â faint o betrol a disel sydd ar ôl.

Mae streicwyr wedi amgylchynu sawl purfa a storfa olew dros yr wythnos diwethaf er mwyn protestio yn erbyn cynllun yr Arlywydd, Nicolas Sarkozy, i godi’r oed ymddeol i 62. Fe fydd Senedd Ffrainc yn dadlau ynglŷn â’r cynllun dydd Mercher.

Mae gweithwyr yn anhapus ynglŷn â’r cynlluniau gan ddweud bod Nicolas Sarkozy eisiau system “cyfalafol Americanaidd”.

Dadl y Llywodraeth bod yr oed ymddeol ymysg yr isaf yn Ewrop, bod Ffrancwyr yn byw yn hirach a bod y sustem bensiynau eisoes yn colli arian.

Prinder petrol

Yn ôl rhaid adroddiadau mae mwy nag 1,000 o orsafoedd petrol, tua chwarter y cyfanswm, eisoes yn wag.

Mae cwmnïau sy’n hedfan i mewn i’r wlad hefyd wedi cael gwybod y dylen nhw gario digon o danwydd ar gyfer hedfan yn ôl, rhag ofn nad oes dim ar gael yn y meysydd awyr.

Mae’r Prif Weinidog Francois Fillon wedi addo gwneud beth bynnag sydd ei angen er mwyn atal prinder tanwydd gan ddweud na fydd y llywodraeth yn caniatáu i’r streicwyr wneud niwed i’r economi.

Dywedodd pennaeth corff diwydiannol petrol Ffrainc fod yna ddigon dros ben “i’n cadw ni i fynd am ychydig wythnosau”.

Ond fe ychwanegodd Jean-Louis Schilansky, llywydd y Gymdeithas Diwydiant Petrol, y byddai gan y wlad “broblem fawr” petai streicwyr yn parhau i flocio’r storfeydd olew.