Dolgellau II 0 Aberdyfi 4

Fe enillodd Aberdyfi’n gyfforddus yn erbyn ail dîm Dolgellau.

Mi fyddai’r sgôr wedi bod yn uwch oni bai am ymdrechion y gôl geidwad, Ashley Hills, a’r holl gyfleoedd a wastraffodd yr ymwelwyr.

Er hynny, roedd Dolgellau wedi dangos eu gallu drwy chwarae’r pêl-droed gorau am yr hanner awr cyntaf.

Er hynny roedd yn amlwg eu bod nhw’n ddibynnol ar Hills, yn y gôl, a Tristan Evans yn y cefn.

Y goliau cyntaf

Wedi 33 munud fe ddaeth cyfle cyntaf y tîm cartref wrth i Peter Griffiths groesi’r bêl i draed Joe Emphiram ond fe hedfanodd ei ergyd dros y trawst.

Ymatebodd Aberdyfi’n gyflym i’r bygythiad yma pan ergydiodd Ben Holt y bel at y gôl, cyn i Hills lwyddo i’w rwystro.

Fe ddaeth y gôl yn syth wedyn wrth i dafliad o’r ochr dde i mewn i’r cwrt cosbi ganfod Mel Smith a lwyddodd i droi’r amddiffynnwr a tharo ergyd isel i faeddu’r golwr.

Wedi 40 munud fe sgoriodd Ben Holt o’r smotyn wedi iddo gael ei faglu yn y cwrt cosbi.

Yr ail hanner

Ar ôl dim ond munudau o’r ail hanner fe sgoriodd Aberdyfi eu trydedd gôl wrth i Holt fanteisio ar gamgymeriad gan y tîm cartref a oedd yn ceisio amddiffyn yn erbyn pêl uchel.

Er gwaethaf ymdrechion Ashley Hills a’i amddiffynwyr i atal Aberdyfi rhag ychwanegu at y sgôr, fe rwydodd Mike Roberts wedi 79 munud ar ôl cyd-chwarae da rhyngddo ef a Holt er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.

Anfonwyd yr adroddiad gan Stephen Parry (Logo o wefan Dolgellau)