Mae’r Palesteiniaid yn fodlon anghofio eu hawl hanesyddol i dir Israel os byddan nhw’n cael sefydlu eu cenedl eu hunain ar y tiroedd a feddiannwyd yn ystod Rhyfel Chwe Diwrnod 1967.
Dyna ddywedodd yr Arlywydd Mahmoud Abbas mewn cyfweliad gydag Israeli TV. Awgrymodd hefyd na fyddai Palesteiniaid yn parhau i alw am yr hawl i ddychwelyd i’w cartrefi ar diriogaeth Israel.
Dywedodd Mahmoud Abbas mai trafodaethau gyda Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, oedd ei flaenoriaeth ond y byddai’n ystyried opsiynau eraill os nad oedd y trafodaethau’n llwyddiannus.
“Mae pob opsiwn ar gael i ni, ond rydym ni’n canolbwyntio ar y trafodaethau ar hyn o bryd, felly does pwynt trafod yr opsiynau eraill nawr,” meddai.
Atal y trafodaethau
Mae’r trafodaethau wedi eu hatal am y tro am nad yw Israel yn fodlon rhoi’r gorau i’r gwaith o ehangu’r datblygiadau tai newydd ar dir y Palesteiniaid.
Mae’r Palesteiniaid eisiau sefydlu eu cenedl eu hunain ar y Llain Orllewinol, Gaza a Dwyrain Jerwsalem, a gafodd eu cipio gan Israel yn 1967.
Mae Israel wedi gadael Gaza ond mae tua hanner miliwn o bobol Israel wedi ymgartrefu ar diroedd eraill y Palesteiniaid.
‘Dim pwynt’ meddai Abbas
Dywedodd Mahmoud Abbas nad oedd pwynt parhau i drafod tra bod treflannau newydd yn cymryd mwy o dir sydd wedi ei hawlio gan Balesteiniaid.
“Pan ddaeth Barack Obama i bŵer, fe ddywedodd bod yn rhaid rhoi stop ar ehangu’r treflannau,” meddai Mahmoud Abbas. “Os ydi America yn dweud hynny ac Ewrop yn dweud hynny a gweddill y byd yn dweud hynny, dw i ddim yn mynd i ddweud yn wahanol.”
Yn ôl Benjamin Netanyahu mae o eisiau i’r Palesteiniaid adnabod Israel fel cenedl Iddewig, ac awgrymodd y byddai’n fodlon gohirio ehangu’r treflannau eto pe baen nhw’n gwneud hynny.
Hyd yn oed os bydd Abbas a Netanyahu’n cytuno fe fydd problem bellach wrth geisio perswadio’r mudiad Hammas, sy’n rheoli ardal y Palesteiniaid yn Gaza.
Llun: Mahmoud Abbas (cyhoeddus)