Fe fu farw aelod o’r Morfilwyr Brenhinol o anafiadau difrifol i’w ben pan drawodd ei gerbyd fom ar ochor y ffordd yn Afghanistan, clywodd cwest heddiw.

Clywodd Llys Crwner Birmingham bod yr is-gorpral Robert Martin Richards, o Benmachno, ger Betws-y-Coed, wedi cyrraedd yr ysbyty mewn hofrennydd o fewn 30 munud i’r ffrwydrad.

Er iddo gael triniaeth yn Afghanistan a Phrydain i’r anafiadau i’w benglog a’i ymennydd, fe fu’r dyn 24 oed farw bum niwrnod yn ddiweddarach yn un o ysbytai’r fyddin ym Mirmingham.

Dywedodd cydweithiwr i Robert Martin Richards wrth y cwest bod cerbydau eraill wedi gyrru drwy safle’r bom a bod milwyr wedi archwilio’r ardal cyn y ffrwydrad ger Nad e-Ali ar 22 Mai y llynedd.

“Roedd yna ddau gerbyd arall y tu ôl i ni ac roedd un neu ddau o’n tîm ni, gan gynnwys fi, wedi cerdded dros yr ardal yna,” meddai’r Capten Andrew Wakeling.

Dywedodd yr is-gyrnol Adam Brooks wrth y cwest bod Robert Martin Richards wedi ei anafu’n ddifrifol iawn a’i bod yn amlwg nad oedd llawer o obaith iddo.

Llun: Robert Martin Richards (MoD)