Mae cwpwl o Sir Gâr ar eu ffordd i Lundain ar gyfer seremoni wobrwyo y Good Hotel Guide 2011 a fydd yn cael ei chynnal heno i ddathlu’r deg gwesty sydd ar frig y rhestr eleni.

Cyhoeddwyd rhestr o brif enillwyr gwobrau y Good Hotel Guide 2011 yn mhapur newydd The Times ddydd Sadwrn, gyda gwesty Tŷ Mawr, Brechfa, yn ennill Gwobr Cesar am y Gwesty Cymreig Gorau.

Yn ôl Stephen Thomas, o Gaerdydd, ac Annabel Viney, o Swydd Hertford, mae’r wobr yn deyrnged i’r “gwaith caled ydan ni wedi ei wneud yn y gwesty a’r gwasanaeth bersonol ry’n ni’n ei gynnig i’n gwesteion.”

“Mae e’n pilio bod carotsen, a finne’n cyfarch bob gwestai,” meddai Annabel Vinney, sydd yn gyfrifol am redeg popeth o flaen y llenni tra bod ei phartner, Stephen Thomas, yn gogydd ym mwyty’r gwesty.

Mae’r ddau wedi bod yn rhedeg y gwesty ar ben eu hunain ers dros chwe mlynedd erbyn hyn, a nhw yw’r unig staff parhaol sydd yno, gydag help llaw gan staff rhan-amser ar adegau prysur.

“Ry’n ni’n hunangynhaliol iawn,” meddai Annable Viney, “ac er ein bod ni’n datblygu o hyd, dy’n ni ddim eisiau gwesty mwy o faint rhag i ni golli’r teimlad personol sydd yn nodweddu’r lle ar hyn o bryd.”

Mae’r gwesty ei hun mewn hen dŷ fferm sydd wedi ei gofrestru oherwydd ei ddiddordeb hanesyddol, felly ni fyddai’n bosib ymestyn llawer.

Mae’r adeilad yn dyddio yn ôl i’r 16eg ganrif, ac mae ei gymeriad gwreiddiol yn dal i’w weld yn y waliau trwchus, y llefydd tân, a’r trawstiau pren.

“Pan brynon ni’r gwesty roedd yr adeilad mewn cyflwr eitha’ gwael, ond roedd y potensial anferth yn amlwg i’r ddau ohonon ni,” meddai Annabel Viney. “Gwneud y mwyaf o’r potensial hwnnw yw ein nod ni o’r dechrau.”


Y Gwesty Hanesyddol

Mae’r hen dŷ fferm wedi bod yn westy answyddogol am gyfnod yn ei hanes o’r blaen, ychydig dros ganrif a hanner yn ôl.

Pan fu Terfysgoedd Beca ar led yng Ngorllewin Cymru yn y 19eg ganrif, fe fu’r tŷ fferm yn lety i garfan o filwyr y llywodraeth a ddanfonwyd yno i atal y protestio.

Roedd y tŷ yn gartref i ŵr o’r enw Caleb Chivers ar y pryd, rheolwr Brechfa Chemical Works yn ystod y 1840au-50au, ac yn perthyn i ystad Dashwood – sef perchnogion olaf yr hen dŷ fferm cyn iddo gael ei droi’n westy gan gwpwl o Surrey yng nghanol y 1970au.

(Llun: O wefan Tŷ Mawr)