Fe fydd y Llewod yn dechrau eu taith i Awstralia yn 2013 gyda gêm yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Llewod chwarae yn Asia. Mae Awstralia a Seland Newydd wedi chwarae yn Hong Kong yn y gorffennol.

Fe fydd Cwpan y Byd 2019 yn cael ei chynnal yn Japan ac mae Asia yn cael ei hystyried yn farchnad fawr newydd ar gyfer y gamp.

Mae cyn chwaraewr rhyngwladol yr Alban a’r Llewod, Andy Irvine wedi cael ei enwi’n rheolwr y daith, gan olynu Gerald Davies.

Mae Davies a oedd yn rheolwr ar y daith olaf i Dde Affrica wedi cael ei benodi’n gadeirydd y Llewod.

Mae’r Llewod hefyd wedi cyhoeddi eu bod wedi adnewyddu cytundeb nawdd gyda HSBC tan ddiwedd y daith i Awstralia.

“Fe fydd chwarae ein gêm gyntaf yn Hong Kong yn sicrhau bod y daith i Awstralia hyd yn oed yn fwy arbennig,” meddai Prif Weithredwr y Llewod, John Feehan.

“Fe hoffwn ni hefyd longyfarch Andy a Gerald ar eu penodiadau. Fe fydd y Llewod yn elwa’n sylweddol o gael dau gyn chwaraewr sydd mor uchel eu parch wrth y llyw.”