Mae Canghellor yr wrthblaid, Alan Johnson wedi dweud heddiw y dylai banciau dalu £3.5 biliwn ychwanegol bob blwyddyn er mwyn lleddfu’r toriadau ar wario cyhoeddus.

Dywedodd fod cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer trethu’r banciau yn “annigonol” o ystyried y boen y bydd plant a theuluoedd yn ei wynebu o ganlyniadau i doriadau mewn gwariant cyhoeddus.

“Mae’r sector fancio yn cyfrannu £2.4 biliwn, tra bod atal budd-daliadau plant a thoriadau eraill yn cyfrannu llawer mwy,” meddai Alan Johnson.

“Mae teuluoedd yn ysgwyddo’r baich tra bod bancwyr yn bachu’r bonwsau. Dyw hi ddim yn bosib cyfiawnhau hynny.

“Felly rydym ni’n gofyn i’r Llywodraeth ail feddwl a galw ar y banciau i wneud cyfraniad mwy.”

Dyma ei araith fawr gyntaf ers iddo gael ei benodi’n Ganghellor yr wrthblaid gan arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, yn gynharach y mis yma.

Awgrymodd Alan Johnson ei fod o hefyd eisiau i drethi chwarae rhan mwy wrth leihau’r diffyg ariannol nag oedd ei ragflaenydd, Alistair Darling.

Ond dywedodd na fyddai’r Blaid Lafur “ddim, a ddim yn gallu gwrthod bod toriad”.

“Rhaid i arbedion fod yn rhan o unrhyw gynllun difrifol i leihau’r diffyg ariannol, ac rydym ni’n cytuno na ddylai’r rheini sy’n twyllo’r sustem gael elwa ohono,” meddai Alan Johnson.