Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Stephen McPhail wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda chlwb y brifddinas tan ddiwedd tymor 2012-13.

Mae’r Gwyddel yn ymuno gyda Peter Whittingham, Kevin McNaughton a Darcy Blake sydd eisoes wedi ymrwymo eu hunain i’r clwb tan 2013.

“Rydw i wrth fy modd yn cael arwyddo cytundeb newydd,” meddai Stephen McPhail wrth wefan swyddogol Caerdydd.

“Doeddwn i ddim am fynd i unrhyw le arall ac mae fy nheulu i’n mwynhau byw yma.

“Rydw i am ganolbwyntio ar orffen y dasg a ddechreuwyd blynyddoedd ‘nôl, sef ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.”

Ond mae Dave Jones yn awyddus i sicrhau llofnod pedwar chwaraewr arall sydd â chytundebau yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd cytundebau Chris Burke, Adam Matthews, Jay Bothroyd a Gavin Rae yn dod i ben dros yr haf, ac fe fydd hawl ganddynt ymuno gyda chlwb arall oni bai eu bod nhw’n arwyddo cytundebau newydd.

Fe fydd rheolwr Caerdydd yn awyddus i sicrhau nad yw’r clwb yn colli mwy o chwaraewyr, ar ôl colli Joe Ledley dros yr haf.