Mae 15 person di-waith yn ymgeisio am bob swydd wag yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan undeb Unsain.

Ar draws Ynysoedd Prydain mae pedwar person yn ymgeisio am bob swydd wag, meddai’r undeb.

Dywedodd yr undeb bod yr arolwg yn dangos y “peryg” y mae’r economi ynddo ac yn tanseilio unrhyw obaith am adferiad buan.

Dydd Mercher fe fydd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr, ac mae disgwyl iddo arwain at golli swyddi mawr, yn enwedig yng Nghymru ble mae canran uwch na’r cyfartaledd o’r boblogaeth yn gweithio yn y sector gyhoeddus.

Dadl Unsain yw ei bod hi’n rhy gynnar i dorri nawr ac y bydd y toriadau yn “gwenwyno’r” sector gyhoeddes a busnesau, gan arwain at fwy o bobol ar y dôl a mwy yn ddi-waith yn yr hirdymor.

‘Amser caled’

Yr ardal anoddaf i ddod o hyd i waith ynddi yw Hackney yn Llundain, meddai’r arolwg, ble mae 31 o bobol ddi-waith i bob swydd wag.

“Mae’r glymblaid wedi gwneud smonach o bethau,” meddai ysgrifennydd cyffredinol Unsain, Dave Prentis.

“Mae gyda nhw gynllun i dorri nôl ond dim cynllun ar gyfer twf ac adferiad. Fe fydd o’n arwain at amser caled i filiynau o deuluoedd a’r trethdalwyr fydd yn gorfod talu amdanyn nhw.

“Hyd yn oed nawr, cyn y toriadau ariannol, does yna ddim digon o swyddi i bawb.

“Er gwaethaf honiadau’r Canghellor fydd yna ddim lloches yn y sector breifat ar gyfer y 725,000 o weithwyr yn y sector gyhoeddus sy’n wynebu colli eu gwaith.

“Fe fydd y diwydiant preifat yn dioddef hefyd, gyda mwy nag hanner miliwn o swyddi yn mynd oherwydd y toriadau.”