Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi carfan 33 dyn ar gyfer cyfres ryngwladol yr hydref.

Mae prop y Gleision, Scott Andrews ynghyd ag asgellwr y Scarlets, George North wedi cael eu cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf.

Mae James Hook, Shane Williams Tom Shanklin, Gethin Jenkins Martyn Williams ac Ian Gough yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn eu habsenoldeb dros yr haf.

Dyw Jamie Roberts ddim yn y garfan wrth iddo barhau i wella o anaf i’w arddwrn.

Ond dyw Gatland heb gyhoeddi pwy fydd yn arwain y tîm ar gyfer y gemau yn erbyn Awstralia, De Affrica, Fiji a Seland Newydd.

Carfan Cymru

Cefnwyr- Mike Phillips (Gweilch ), Richie Rees (Gleision), Tavis Knoyle (Scarlets), Stephen Jones (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch ), James Hook (Gweilch ), Andrew Bishop (Gweilch ), Jonathan Davies (Scarlets), Tom Shanklin (Gleision), Shane Williams (Gweilch ), Leigh Halfpenny (Gleision), Will Harries (Dreigiau), George North (Scarlets), Lee Byrne (Gweilch ), Tom Prydie (Gweilch ).

Blaenwyr- Gethin Jenkins (Gleision), Paul James (Gweilch ), Adam Jones (Gweilch ), John Yapp (Gleision), Scott Andrews (Gleision), Matthews Rees (Scarlets), Huw Bennett (Gweilch ), Richard Hibbard (Gweilch ), Alun Wyn Jones (Gweilch ), Bradley Davies (Gleision), Deiniol Jones (Gleision), Ian Gough (Gweilch ), Dan Lydiate (Dreigiau), Jonathan Thomas (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch ), Sam Warburton (Gleision), Martyn Williams (Gleision), Rob McCusker (Scarlets).