Mae Llandudoch wedi sicrhau buddugoliaeth gysurus oddi cartref yn erbyn tîm ifanc Sêr Dewi.

Cychwynnodd yr ymwelwyr ar ras gan sgorio eu pedair gôl yn yr ugain munud agoriadol.

Fe ddaeth y ddwy gyntaf o ergydion pwerus gan Jonny James cyn i Dan Belis ac Adam Williams ychwanegu dwy gôl wefreiddiol arall wrth iddynt rwygo’r amddiffyn yn hawdd.

Er gwaethaf y dechrau gwael, fe ddangosodd y tîm cartref ddycnwch a chymeriad am y 70 munud oedd yn weddill.

Fe wnaeth Sêr Dewi wrthsefyll yr ymosodiadau a chreu cyfleoedd eu hunain gan gadw Casey Walters yn ddigon prysur yng ngôl Llandudoch.

Roedd y ddau fachgen dwy ar bymtheg oed William Williams a Dean Coleman yn amlwg i’r Sêr wrth iddynt ennill hyder a’r golwr deunaw oed Rhodri Morgans yn tyfu mewn awdurdod wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.

Daeth gôl gysur haeddiannol i Sêr Dewi ychydig cyn y diwedd wrth i Siôn Gwilym Griffiths rwydo gydag ergyd wych arall wrth ymyl y cwrt cosbi.

Adroddiad gan John Jones