Mae’r bocsiwr Gavin Rees wedi cael cyfle i aildanio ei yrfa ar ôl cael ei ddewis i herio John Watson am goron is-bwysau Prydain.

Fe fydd cyn bencampwr y byd yn wynebu’r Sais yng Nghasnewydd ar 6 Tachwedd.

Dim ond un ornest allan o 34 mae Rees wedi ei golli, ond dyw’r Cymro ddim wedi ymladd yn gyson ers colli i Andreas Kotelnik yn 2008. Dyma fydd y tro cyntaf iddo ymladd tair gwaith mewn blwyddyn ers 2006.

Fe enillodd Rees gystadleuaeth is-welter Prizefighter ym mis Rhagfyr llynedd.

Ond ers hynny mae’r Cymro wedi colli pwysau er mwyn ymladd yn yr adran is-bwysau ers cyfnewid ei hyfforddwr Enzo Calzaghe am Gary Locket.

Mae Gavin Rees yn gobeithio cipio coron Prydain er mwyn cael cyfle i herio am goron y byd unwaith eto.