Mae ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd wedi dweud ei fod o’n rhyfeddu bod Dave Jones yn dweud y dylai gael chwarae i Loegr.

Yn dilyn buddugoliaeth 3-2 yr Adar Glas yn erbyn Dinas Bryste dros y penwythnos fe ddywedodd rheolwr y clwb y dylai hyfforddwr Lloegr, Fabio Cappello ystyried cynnwys Bothroyd yn ei garfan.

“Roedd Jay yn wych, ac os fydd yn parhau i chwarae fel yna, mae’n ddigon da i chwarae i Loegr,” meddai Dave Jones ar ôl y gêm yn erbyn Dinas Bryste.

Mae’r ymosodwr, sydd wedi sgorio wyth gôl mewn 11 gêm y tymor hwn wedi dweud y bydd yn parhau i wneud ei orau dros Gaerdydd.

“Mae hwnna’n ganmoliaeth ryfeddol, ac mae’r diolch yn mynd i Dave Jones a’i staff,” meddai Jay Bothroyd ar ei dudalen Twitter.

Mae Bothroyd wedi chwarae unwaith i dîm dan 21 Lloegr, ond dyw’r ymosodwr dylanwadol ddim wedi cael ei ddewis i chwarae i’r tim cenedlaethol.