Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau ddyn 19 oed fu farw wedi gwrthdrawiad car ger Pen-y-bont ddoe.

Bu farw James Davies o Fro Ogwr a Michael Griffiths o Gwm Felin ym Mhen-y-bont yn y gwrthdrawiad ar yr A4061 yn Blackmill tua 4.00am dydd Sul.

Roedd yna bump yn teithio yn y car Vauxhall Corsa lliw gwyn pan gollwyd rheolaeth arno.

Mae dyn 19 oed o ardal Ben-y-bont wedi cael ei arestio mewn cysylltiad gyda’r digwyddiad ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau barhau.

Teyrngedau

Mae teuluoedd James Davies a Michael Griffiths wedi talu teyrnged i’r ddau ohonynt.

“Roedd James yn boblogaidd ac yn adnabyddus i bawb yn y gymuned leol,” meddai mam James Davies, Julie.

“Fe fydd ei deulu a ffrindiau yn gweld ei eisiau yn fawr iawn.”

“Roedd Michael yn fab, brawd, ffrind, cydweithiwr a chyd-chwaraewr gwych,” meddai tad Michael Griffiths, Robert.

“Roedd Michael yn fy ngwneud yn falch iawn: y mab gorau gallai unrhyw un ddymuno ei gael. Galle’n ni ddim fod wedi gofyn am fab gwell.”

Apêl

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un oedd wedi gweld y cerbyd yn cael ei yrru yng nghanol dref Pen-y-bont cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda hwy.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth naill ai ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu Daclo’r Tacle ar 0800 555 111.