Prisiau tai Ceredigion a Sir Ddinbych sy’n debygol o gael eu taro galetaf gan y toriadau i’r sector gyhoeddus, datgelwyd heddiw.
Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi toriadau mawr i’r sector gyhoeddus yn yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr dydd Mercher.
Bydd hynny’n taro’r farchnad dai yn galed mewn ardaloedd ble mae canran mawr o’r boblogaeth yn ddibynnol ar y sector gyhoeddus, meddai gwefan tai Zoopla.co.uk.
Rhydychen fydd yn cael ei daro waethaf, gyda 46% o bobol y ddinas yn cael eu cyflogi yn y sector gyhoeddus.
Ond Sir Ddinbych yw’r nesaf ar y rhestr, ble mae 45% o bobol yn cael eu cyflogi gan y llywodraeth. Mae Ceredigion hefyd ymysg yr ardaloedd ble mae mwy nag 40% o bobol yn gweithio yn y sector gyhoeddus.
“Mae’r wlad yn paratoi am doriadau mawr yng ngwariant y llywodraeth ac mae disgwyl i nifer o swyddi yn y sector gyhoeddus gael eu colli dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Nicholas Leeming, cyfarwyddwr masnachol Zoopla.co.uk.
“Mewn ardaloedd ble mae’r rhan fwyaf o bobol yn cael eu cyflogi gan y wladwriaeth, fe fydd diweithdra yn arwain at lai o bobol yn gallu talu eu morgeisi, yn ogystal ag arwain at lai o alw gan brynwyr.
“Fe fydd hynny yn gwthio prisiau tai i lawr yn yr ardaloedd rheini. Mae prisiau tai yn debygol o fod yn fwy gwydn mewn ardaloedd ble mae yna lai o weithwyr yn y sector gyhoeddus.”