Cafodd 20 o bobol oedd yn teithio ar fws eu llusgo ymaith gan gerrynt byrlymog yn Fietnam heddiw, ar ôl i law trwm ddisgyn ar y wlad.
Dywedodd rhagolygwyr y tywydd nad oes cysylltiad rhwng y tywydd a Theiffŵn Megi sydd wedi taro ynysoedd y Philipinau.
Llwyddodd 17 o bobol oedd ar y bws, gan gynnwys y gyrrwr, i ddringo coed neu bolion trydan er mwyn osgoi’r lli.
Cafodd un ddynes ei hachub ar ôl cael ei llusgo tair kilomedr ar hyd Afon Lam. Rhwygwyd ei merch fach allan o’i dwylo gan y cerrynt ar ôl iddi fod yn nofio am dair awr a hanner.
Cafodd hi a rhai eraill eu hachub gan bysgotwyr a’r heddlu, ond mae o leiaf 27 o bobol wedi marw o ganlyniad i ddyfroedd uchel mewn rhannau eraill o’r wlad.
Roedd y bws yn teithio o ucheldiroedd canolbarth y wlad tuag at y brifddinas pan gafodd ei lusgo oddi ar draffordd gan y llifogydd.
Roedd 500 o filwyr, pysgotwyr a’r heddlu wedi chwilio am y bws ac unrhyw un oedd yn fyw. Maen nhw’n credu fod unrhyw un na lwyddodd i ddianc o’r bws wedi marw.
Dywedodd awdurdodau’r wlad heddiw bod 21.5 modfedd o law wedi disgyn yno dros y dyddiau diwethaf, a bod 126,000 o bobol wedi gorfod gadael eu tai.