Cynyddodd prisiau tai 3% ar draws Prydain yn ystod mis Hydref gan awgrymu nad yw gwerthwyr yn fodlon derbyn y gwendid yn y farchnad dai, yn ôl arolwg newydd heddiw.
Roedd cynnydd o £7,000 i £236,849 ym mhris cyfartalog tai ddaeth ar werth ym mis Hydref, yn ôl y gwefan tai Rightmove.
Cymru oedd un o ddwy ardal ym Mhrydain lle na wnaeth prisiau tai gynyddu. Syrthiodd prisiau 2.3% yng Ngogledd Orllewin Lloegr, a 0.6% yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig mai pryderon ynglŷn â swyddi yn y sector gyhoeddus oedd yn gyfrifol am y cwymp yng Nghymru.
‘Siomi’
Daw’r cynnydd ar draws Prydain yn dilyn tri mis yn olynol o gwymp ym mhrisiau tai, ac er gwaetha’r ffaith nad oedd mwy o dai yn cael eu gwerthu.
Rhybuddiodd Rightmove y byddai gwerthwyr yn debygol o gael eu siomi, a bod gofyn pris uchel am dŷ yn ei gwneud hi’n anoddach ei werthu’n ddiweddarach am bris is.
Mae’r rhan fwyaf o sylwebwyr yn disgwyl i brisiau tai ddisgyn eto dros y flwyddyn nesaf, gyda rhai yn dweud y bydd yna gwymp o fwy nag 10%.
Yn ôl Rightmove mae 11% yn fwy o dai yn cael dod ar werth bob wythnos o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2009.
“Gan ystyried pa mor heriol yw’r farchnad bresennol mae’n anodd esbonio pam fod gwerthwyr wedi codi eu prisiau tai £7,000,” meddai cyfarwyddwr Rightmove, Miles Shipside.
“Bob blwyddyn mae gwerthwyr tai yn dod ar y farchnad ar ôl gwyliau’r haf gan obeithio cymryd mantais o brynwyr sydd eisiau bod mewn cartref newydd cyn y Nadolig.
“Dyw hi ddim yn debygol o fod yn dacteg lwyddiannus, ond mae o’n awgrymu bod gwerthwyr tai dan bwysau ariannol mawr a ddim yn gallu fforddio gwerthu ar bris is.”