Mae Llywodraeth y San Steffan wedi rhoi sêl bendith i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn, heddiw.

Er gwaetha’r ffaith bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwrthwynebu gorsafoedd niwclear newydd tra’n wrthblaid, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Egni, Chris Huhne heddiw y byddai’r gwaith yn mynd yn ei flaen.

Ond penderfynodd na fyddai’r cynllun i adeiladu morglawdd 10 milltir ar draws yr Hafren yn mynd yn ei flaen.

Roedd ymchwil swyddogol wedi dweud nad oedd yna unrhyw “alw strategol” am adeiladu morglawdd, a allai gostio cymaint â £30 biliwn.

Roedd ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd wedi protestio yn erbyn y bygythiad i fyd natur a degau o filoedd o adar. Mae rhai’n dadlau hefyd y byddai’r morglawdd yn gwneud drwg i fusnesau porthladd a thwristiaeth ar lan yr afon ac y byddai’n cymryd blynyddoedd cyn i’r cynllun ddechrau cynhyrchu.

Ond fe roddodd Chris Huhne sêl bendith i adeiladu pwerdai niwclear newydd yn Wylfa, Ynys Môn; Bradwell, Essex; Hartlepool; Heysham, Swydd Gaerhirfryn; Hinkley Point, Gwlad yr Haf; Oldbury, De Swydd Gaerloyw; Sellafield, Cumbria; a Sizewell, Suffolk.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd y bydd gorsaf bŵer Wylfa yn parhau i gynhyrchu pŵer tan 2012.

Mae disgwyl y bydd Wylfa B yn cael ei hadeiladu ar safle cyfagos, ac y bydd hi’n weithredol erbyn 2020.

Byddai hynny’n dod â 500 o swyddi i’r ardal yn ystod y broses adeiladu, ac yn creu 800 o swyddi llawn amser wedyn, meddai’r datblygwyr Horizon.

Barn PAWB

Yn ôl Dylan Morgan, llefarydd ar ran grŵp ymgyrchu PAWB, mae cyhoeddiad Chris Huhne ar ddyfodol Wylfa B yn mynd i greu “rhagor o gur pen” i Brydain wrth ddelio â gwastraff ynni niwclear.

“Mae rhaglen ddadgomisiynnu niwclear y llywodraeth yn brin o £4biliwn yn barod,” meddai Dylan Morgan, “er bod hanner cyllideb adran Huhne wedi ei glustnodi ar gyfer delio ag ynni niwclear.”

“Mae’r Llywodraeth eisoes yn methu talu am y llanast niwclear a grëwyd dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf,” meddai, “felly ble ma’r synnwyr mewn creu rhagor o gur pen trwy agor Wylfa B?”

Dywedodd Dylan Morgan fod pryderon ariannol hefyd yn creu nerfusrwydd ymysg penaethiaid cwmnïau ynni niwclear.

“Yn wahanol i’r spin lleol,” meddai, “mae prif ddynion cwmnïau fel Eon yn nerfus iawn ynglŷn â’r buddsoddiad ariannol fydd ei angen i roi Wylfa B ar waith.”

Mae Chris Huhne wedi gwrthod argymhellion i greu ‘treth niwclear’ i ariannu’r cynlluniau niwclear newydd, hyd yma. Penderfyniad sydd, yn ôl Dylan Morgan, wedi creu tensiwn rhwng cynlluniau’r llywodraeth a chwmnïau ynni niwclear.

Barn Peter Hain

Yn gynharach heddiw cyhuddodd Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru Gwrthblaid Llywodraeth San Steffan o fod â “meddyliau bychan” am wrthod cefnogi morglawdd.

Dywedodd fod cyfle mawr yn cael ei golli, gan gynnwys “miloedd ar filoedd o swyddi.”

Pe bai llywodraethau’r gorffennol wedi ymddwyn yn yr un ffordd, fyddai dim rheilffyrdd wedi eu hadeiladu, meddai Peter Hain ar Radio Wales.

“Mae pawb yn meddwl yn llawer rhy fychan,” meddai wedyn, gan ddweud y byddai’r morglawdd wedi cynhyrchu cymaint o drydan â dwy orsaf niwclear. “Mae’r Llywodraeth yn colli cyfle mawr.”