Cymru 31 Iwerddon 30

Fe fydd Cymru’n wynebu Ffrainc y penwythnos nesaf i benderfynu pwy fydd yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad – prif bencampwriaeth ryngwladol Rygbi’r Gynghrair.

Fe lwyddodd Lee Briers gyda chic adlam hwyr i sicrhau buddugoliaeth 31-30 yn erbyn Iwerddon yn y Gnoll, Castell Nedd. Dyma’r ail fuddugoliaeth i’r Cymry yng Nghwpan Ewrop.

Gyda Ffrainc yn curo’r Alban 26-12, fe fydd enillydd y gêm olaf yn Albi ddydd Sadwrn nesaf yn cael mynd ymlaen i herio Awstralia, Seland Newydd a Lloegr yn 2011.

Fe drawodd Iwerddon yn ôl dair gwaith i fynd ar y blaen ac roedd hyfforddwr Cymru, Iestyn Harries yn dweud fod ei dîm ychydig yn ffodus.

Cyrraedd y nod, meddai Harries

“Roedd Iwerddon wedi dod gyda’r awydd i ennill ac roedden ni wedi gwneud pethau’n anodd ar adegau,” meddai Iestyn Harries.

“Ond os byddwn ni’n parhau i wella a gweithio’n galed, fe fyddwn ni’n cyrraedd y nod a gobeithio mai’r wythnos nesaf y bydd hynny.”