Mae Llywodraeth Cymru eisiau gorfodi ysgolion, colegau addysg bellach ac awdurdodau lleol i weithio’n llawer mwy clos gyda’i gilydd.

Fe fyddai hynny’n cynnwys tynnu llywodraethwyr gwahanol ysgolion at ei gilydd i greu ffederasiynau.

Dyna ran o’r neges gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wrth iddo annerch undeb athrawon yr NASUWT yn ddiweddarach heddiw.

Fe fyddai ffederasiynau’n rhoi cyfle i rannu cwricwlwm, staff, arbenigedd ac adnoddau, meddai’r Gweinidog, ac, yn ogystal â chynnig y cyfle am arbedion arian, fe fydden nhw’n gwella addysg hefyd.

Dyma un o’r brawddegau allweddol yn yr araith: “Fy ngweledigaeth i yw bod ysgolion, colegau addysg bellach ac awdurdodau lleol yn cydweithio gyda’i gilydd i arbed adnoddau ac i gynnig cymaint ag sy’n bosib o’r cwricwlwm a chyrsiau er lles y dysgwyr.”

Hawliau deddfu

Mae’r Llywodraeth yn y broses o geisio cael rhagor o hawliau deddfu ynglŷn ag arian ysgolion ac fe fyddai’r cydweithio’n rhan o fesur newydd.

Fe fydd Leighton Andrews yn dweud hefyd ei fod eisiau gweld rhagor o arian yn mynd o awdurdodau lleol i ysgolion – fe fyddai newid o 2% yn y balans ariannol rhyngddyn nhw’n golygu cynnydd ariannol o £83 miliwn i ysgolion.

Llun: Coleg Penfro – un o’r colegau addysg bellach