Leicester Tigers 46 Scarlets 10
Mae maswr y Scarlets, Stephen Jones, yn dweud y bydd y rhanbarth yn barod i wynebu’r Gleision nos Wener er gwaetha’ crasfa yn erbyn Caerlŷr yn Welford Road ddoe.
“R’yn ni’n siomedig iawn ar hyn o bryd ond Caerlŷr a chwaraeodd orau,” meddai Stephen Jones. “Fe fydd rhaid i ni fod yn onest gyda ni ein hunain a gweithio’n galed yr wythnos yma.
“Fe fyddwn ni wedi dysgu gwersi o’r gemau yma ac mae yna lawer o rygbi i’w chwarae eto. Dim ond dwy gêm yr ’yn ni wedi eu chwarae yn y Cwpan Heineken, ac r’yn ni’n edrych ‘mlaen at weddill y gystadleuaeth.”
Dechrau da
Roedd y Scarlets yn llawn hyder yn mynd mewn i’r gêm yn erbyn y Saeson ar ôl curo Perpignan y penwythnos diwethaf.
Fe gychwynnodd tîm Nigel Davies yn addawol iawn hefyd gyda Morgan Stoddard yn sgorio cais gwych i’w rho ar y blaen wedi llai na chwarter awr. Dim ond 13-10 oedd hi ar hanner amser.
Wedyn, fe ddaeth chwalfa, gyda’r Teigrod yn sgorio pum cais yn yr ail hanner a’r Scarlets ar chwâl ym mhob agwedd ar y chwarae.
‘Cyfle i daro’n ôl’
Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies yn dweud y bydd ei dîm yn edrych ymlaen at wynebu’r Gleision gan ei fod yn gyfle i daro’n ôl yn syth o’u siom.
“Yr un peth y mae pawb am ei gael ar ôl gêm wael yw chwarae eto- ac fe fyddwn ni’n edrych ‘mlaen at gêm y Gleision nos Wener.”
Llun: Stephen Jones