Fe gafodd y Llywodraeth eu cyhuddo o fod â “meddyliau bychan” am wrthod cefnogi morglawdd ynni ar draws aber afon Hafren.
Yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, roedd cyfle mawr yn cael ei golli, gan gynnwys “miloedd ar filoedd o swyddi”.
Y disgwyl yw y bydd yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, yn cyhoeddi heddiw na fydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynllun. Ond fe fyddan nhw o blaid codi wyth gorsaf niwclear newydd, gan gynnwys un yn yr Wylfa yn Ynys Môn.
Casgliad y Llywodraeth yw na fydd y morglawdd o Gymru i Loegr yn cynnig gwerth am arian – mae ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd wedi protestio yn erbyn y bygythiad i fyd natur a degau o filoedd o adar.
Mae rhai’n dadlau hefyd y byddai’r morglawdd yn gwneud drwg i fusnesau porthladd a thwristiaeth ar lan yr afon ac y byddai’n cymryd blynyddoedd cyn i’r cynllun ddechrau cynhyrchu.
Barn Peter Hain
Pe bai llywodraethau’r gorffennol wedi ymddwyn yn yr un ffordd, fyddai dim rheilffyrdd wedi eu hadeiladu, meddai Peter Hain ar Radio Wales.
“Mae pawb yn meddwl yn llawer rhy fychan,” meddai wedyn, gan ddweud y byddai’r morglawdd wedi cynhyrchu cymaint o drydan â dwy orsaf niwclear. “Mae’r Llywodraeth yn colli cyfle mawr.”
Roedd yn dadlau mai dim ond tua £400 miliwn o arian cyhoeddus a fyddai’n cael ei wario ar y cynllun sydd werth tua £15 biliwn. Fe fyddai angen hynny er mwyn talu am y broses o wneud cais cynllunio.
Y stori gynharach yn fan hyn.
Llun: Peter Hain