Elgan Llŷr Thomas o Landudno sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni mewn cyngerdd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

Fe lwyddodd y tenor i gipio’r wobr o £4,000 ar ôl canu tair cân amrywiol, un draddodiadol Gymraeg, un fodern gan Robat Arwyn a chân o sioe gerdd gan Lloyd Webber.

Mae Elgan Llŷr Thomas bellach yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion a’i fwriad yw mynd i goleg y Guild Hall yn Llundain a dilyn gyrfa ganu broffesiynol.

Dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel a rhan o’r paratoi oedd dosbarth meistr gyda’r canwr Rhydian Roberts. Fe gurodd bump o gystadleuwyr ennill a oedd wedi ennill rhai o brif wobrau Eisteddfod yr Urdd.

“Ennill yr Ysgoloriaeth hon yw uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma,” meddai. “Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy a dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gydweithio â Rhydian Roberts,” meddai.