Mae ynysoedd y Philipinau’n cael eu taro gan un o’r stormydd trofannol gwaetha’ ers blynyddoedd.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae un pysgotwr eisoes wedi cael ei ladd gan Gorwynt Megi, sy’n chwythu ar gyflymder o fwy na 160 milltir yr awr.
Mae miloedd o bobol wedi eu symud o’u tai yng ngogledd ddwyrain y wlad – yn ardal, ynysoedd Luzon – ac mae paratoadau brys ar droed yn y bnfddinas Manila.
Pecynnau brys
Yn ôl yr awdurdodau, mae yna becynnau bwyd a moddion brys a chychod rwber ar gael ac fe fyddan nhw’n fodlon gorfodi pobol i symud o’u cartrefi os bydd raid.
Mae pysgotwyr yn y Gogledd yn cael eu hatal rhag mynd allan i’r môr ac mae ysgolion wedi eu cau.
Fe fydd y Philipinau’n cael eu taro gan tuag 20 o gorwyntoedd mawr bob blwyddyn ond mae Megi’n cael ei ystyried yn waeth na’r cyffredin.
Llun: Llun gan NASA o ran o’r ardal lle mae’r corwynt yn taro