Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi arwyddo cytundeb newydd pedwar blynedd gydag Undeb Rygbi Cymru, datgelwyd heddiw.
Mae’n golygu y bydd Warren Gatland yn hyffordd Cymru tan Cwpan y Byd Lloegr 2015.
Dyw’r hyfforddwr heb fwynhau llwyddiant mawr ers Camp Lawn 2008 ond dywedodd bod arwyddo cytundeb newydd yn dangos ei ymroddiad i Gymru.
“Dydw i heb guddio’r ffaith fy mod i wedi ystyried mynd yn ôl i hemisffer y de am resymau teuluol, ond mae’n dangos fy ymroddiad i Gymru fy mod i eisiau aros,” meddai Warren Gatland.
“Rydw i eisiau diolch i Undeb Rygbi Cymru a chyhoedd Cymru am eu cefnogaeth.
“Rydw i eisiau eu talu nhw yn ôl drwy fuddsoddi fy holl egni proffesiynol i mewn i’r tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd nesaf.
“Rydw i wedi penderfynu aros yng Nghymru oherwydd fy hyder yn y chwaraewyr sydd gyda ni, strwythur y tîm hyfforddi ydan ni wedi ei adeiladu a’r talent sy’n cael ei ddatblygu.”
Fe fydd Warren Gatland yn cyhoeddi ei sgwad ar gyfer gemau’r Hydref yn erbyn Awstralia, De Affrica a Seland Newydd yfory.