Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi addo amddiffyn pobl yr Alban rhag “y gyfres mwyaf milain o doriadau a welwyd yn ein hoes.”

Wrth annerch cynhadledd flynyddol yr SNP yn Perth, dywedodd y byddai ei lywodraeth yn ymateb i’r toriadau mewn gwario cyhoeddus trwy dorri’n ôl ar fiwrocratiaeth yn yr heddlu a’r gwasanaeth iechyd er mwyn amddiffyn cadw swyddi nyrsys a phlismyn.

“Wrth i’r cymylau duon nesáu, prif ddyletswydd llywodraeth yr Alban yw diogelu pobl yr Alban,” meddai.

“Mae’r toriadau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan George Osborne yn bygwth rhwygo gwead cymdeithasol ein cenedl – ond wnawn ni ddim gadael i hynny ddigwydd.

“Dw i’n gwbl sicr pan ddaw hi’n amser i amddiffyn ein pobl ac amddiffyn ein gwerthoedd, yna rhaid inni amddiffyn y nyrs ar y ward, a’r plismon yn y gymuned.”

‘Senedd bres poced’

Defnyddiodd ei araith hefyd i ddadlau’r achos dros fwy o bwerau economaidd i’r Alban.

“Dw i ddim am fod yn rheolwr y toriadau sy’n cael eu penderfynu yn San Steffan,” meddai.

“Mae pwerau Senedd yr Alban wedi rhedeg eu cwrs. Does dim pwynt mewn bod yn senedd bres poced pan mae’r pres poced yn dod i ben.

“Nawr yw’r amser am dwf economaidd newydd a phwerau newydd.”

Honnodd y gallai economi’r Alban dyfu 1% y flwyddyn yn ychwanegol gyda phwerau digonol.

Llun: Alex Salmond (gwifren PA)