Mae dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Simon Hughes, wedi ceisio tawelu ofnau ffyddloniaid ei blaid yng Nghymru ynghylch effaith yr adolygiad ar wario cyhoeddus .

Yn ei araith i gloi cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Aberhonddu, addawodd Simon Hughes y byddai’r adolygiad gwariant – sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher – yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith mai Cymru yw un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig.

Drwy fod y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander – dau Ddemocrat Rhyddfrydol – wedi chwarae rhan flaenllaw yn y penderfyniadau ynghylch y toriadau ar wario, roedd Simon Hughes yn awyddus i bwysleisio dylanwad ei blaid yn y llywodraeth glymblaid.

“Gan fod y penderfyniadau wedi eu gwneud, mae arna’ i eisiau dweud wrthoch chi i pa negeseuon sydd wedi cael eu derbyn,” meddai Simon Hughes.

“I ddechrau, fod Cymru’n dal i fod yn un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig. Fe fydd y Llywodraeth yn adlewyrchu hynny yn ei hymateb ddydd Mercher.

“Er bod Llafur wedi gadael dyled anhygoel i’r glymblaid, mae’n rhaid inni weithio allan ffordd deg o rannu, a bydd addysg ac iechyd yn cael eu cefnogi’n helaeth.”

Swyddfa Cymru

Galwodd hefyd am swydd fel gweinidog yn Swyddfa Cymru i AS Democratiaid Rhyddfrydol y tro nesaf y bydd y cabinet yn cael ei ad-drefnu.

“Nid beirniadaeth o’r gweinidogion presennol yw hyn, ond mater o sicrhau bod llais y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei glywed o ddifrif,” meddai.

Llun: Simon Hughes (gwifren PA)