Cafodd 10 o bobl eu gwasgu i farwolaeth mewn teml orlawn yng ngogledd India ar ôl i ddadl ynghylch aberthu geifr arwain at ruthr yn y dorf.

Roedd dros 40,000 o bobl wedi mynd â’u geifr i deml yn nhalaith Bihar i gynnig ebyrth a gweddïau i’r fam-dduwies Hindŵaidd Durga ar ddiwrnod olaf yr ŵyl Navrati.

Wrth i’r addolwyr geisio achub y blaen ar ei gilydd i fynd at y cigydd, bu farw pedair dynes a chwe dyn yn y wasgfa.

“Roedd pobl yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gael aberthu eu geifr eu hunain yn gyntaf, ac fe gawson nhw ffrae fawr gyda’r cigydd,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth y dalaith.

Cafodd 11 o bobl eraill eu hanafu, tri ohonyn nhw’n ddifrifol.

Mae’r ŵyl Navrati’n cael ei chynnal dros gyfnod o 10 diwrnod i anrhydeddu’r fam-dduwies Hindŵaidd Durga, a chafodd tua 30,000 o eifr eu haberthu yn y deml ddoe.

Llun: Dawnswyr Hindŵaidd yn Gandhinagar, India, ddoe, wrth i ŵyl Navrati gael ei dathlu ledled y wlad (AP Photo)