Mae môrladron o Somalia wedi cipio llong bysgota gyda 43 o forwyr ar ei bwrdd gerllaw arfordir Kenya.
Roedd y llong yn eiddo i gwmni o Dde Korea, a’i chriw’n cynnwys y capten a’r prif beiriannydd o Dde Korea, dau forwr o China a 39 o Kenya pan ymosodwyd ar y llong ychydig dros wythnos yn ôl.
Nid yw’n eglur eto a oes trafodaethau wedi cychwyn gyda’r herwgipwyr nac a ydyn nhw’n hawlio pridwerth ai peidio. Mae gweinyddiaeth dramor De Korea’n gwrthod rhoi manylion am yr herwgipio ei hun rhag ofn peryglu’r pysgotwyr.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion Yonhap yn Seoul, prifddinas De Korea, roedd y llong 241 tunnell yn pysgota am grancod gerllaw Ynys Lamu ar arfordir Kenya pan gawson nhw eu cipio
Mae offer GPS y llong yn dangos iddi gael ei symud i ogledd Somalia i ddechrau, ond mae’n ymddangos ei bod hi’n hwylio draw oddi yno ers ddoe.
Llun: Kenya, yn nwyrain Affrica, lle cafodd y llong ei chipio