Does gan bron i draean o bobol Prydain ddim digon o arbedion i barhau pump diwrnod pe na baen nhw’n gallu dod o hyd i waith, datgelwyd heddiw.

Yn ôl banc HSBC mae gan tri o bob 10 person ym Mhrydain arbedion o llai na £249,a does gan traean o’r rheini ddim arbedion o gwbwl.

Mae cynghorwyr ariannol y banc yn dweud y dylai pobol gael o leiaf tri mis o gyflog wrth gefn rhag ofn eu bod nhw’n colli eu gwaith.

Yn ôl arolwg gan y banc dim ond un mewn pump oedd yn dweud y gallen nhw barhau i dalu eu morgais neu eu rhent os oedden nhw’n colli eu gwaith.

Dywedodd 36% y bydden nhw’n dibynnu ar gefnogaeth y llywodraeth pe baen nhw’n colli eu gwaith a dywedodd 22% y bydden nhw’n dibynnu ar bartner i dalu’r biliau.

‘Hinsawdd economaidd ansicr’

“Rydw i’n pryderu ynglŷn a’r canfyddiadau yma sy’n dangos nad ydi nifer o bobol Prydain wedi paratoi am argyfwng,” meddai Richard Brown, pennaeth arbedion HSBC.

“Yn yr hinsawdd economaidd ansicr presennol mae’n hynod o bwysig fod gan bobol arian wrth gefn.

“Dylai pobol roi rhywfaint o arian i’r naill ochr bob mis er mwyn adeiladu cronfa ariannol fydd yn eu paratoi nhw am beth bynnag a ddaw.”

Pobol ifanc oedd y gwaethaf am gasglu arbedion, gyda 41% o’r rheini a holwyd rhwng 25 a 34 gydag arbedion o lai nag £249.

Mae merched hefyd mewn sefyllfa waeth na dynion gyda 20% heb unrhyw arbedion a 13% ar ben hynny gyda llai nag £249, o’i gymharu â 17% a 9% o ddynion.

Roedd merched ddwywaith yn fwy tebygol na dynion i ddweud y bydden nhw’n dibynnu ar arian eu partneriaid os nad oedden nhw’n gallu gweithio, gyda 30% yn dweud hynny o’i gymharu gyda 15% o ddynion.

Holodd YouGov 2,124 o bobol rhwng 29 Medi a 1 Hydref.