Cymru yw’r lle rhataf ym Mhrydain i ddysgu gyrru, yn ôl canlyniadau arolwg a ryddhawyd heddiw.
Mae gwers yrru yn costio £19.99 ar gyfartaledd yng Nghymru, ac mae’n costio £889.55 ar gyfartaledd i rywun ddysgu gyrru yma.
Yr Alban yw’r lle mwyaf costus i ddysgu gyrru, yn ôl arolwg Ipsos MORI a Yell.com. Mae pob gwers yn costio cyfartaledd o £24.03, ac mae’n costio £1,081 ar gyfartaledd i rywun ddysgu gyrru yno.
Mae’r rhan fwyaf o bobol yn cael tua 45 gwers yrru cyn pasio eu prawf, yn ôl yr arolwg.
“Roeddwn i’n synnu bod cost gwersi gyrru yn amrywio cymaint o le i le,” meddai James Wallace, llefarydd ar ran Yell.com.
“Ond mae’n well dysgu gydag athro da a phasio’n fuan na cheisio arbed arian drwy ddysgu gydag aelod o’r teulu a methu’r prawf.”
Ychwanegodd cyfarwyddwr Ysgol Yrru’r AA, Simon Douglas, y gallai hyfforddwr gyrru rhad hefyd fod yn un gwael gyda char anaddas.
“Dyw nifer o ddysgwyr ddim bob tro’n cael beth maen nhw’n ei dalu amdano,” meddai. “Yn benodol, fe ddylai dysgwyr wneud yn siŵr nad ydi eu hathro nhw’n weithiwr dan hyfforddiant.
“Roedd arolwg gan AA yn dangos bod un ym mhob deg o yrwyr platiau D wedi eu dysgu gan athro gyrru oedd dan hyfforddiant.”