Syrthiodd diweithdra yng Nghymru 12,000 i 118,000 dros y tri mis diwethaf – cwymp o 8.2%.
Dyma’r cwymp mwyaf ar draws Prydain, heblaw am yn ne orllewin a gorllewin canolbarth Lloegr. Syrthiodd diweithdra ar draws Prydain gyfan 20,000 dros y tri mis diwethaf.
Ond dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru na ddylai gorfoleddu gormod yn sgil yr ystadegau diweddaraf ac nad oedd yr adferiad wedi ei sicrhau eto.
“Rhaid croesawu unrhyw gynnydd mewn cyflogaeth ac mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y bobol mewn gwaith yng Nghymru wedi cynyddu 12,000 ar y tri mis blaenorol, a 28,000 ar y flwyddyn flaenorol,” meddai Ieuan Wyn Jones.
“Serch hynny, mae hwn yn adferiad bregus ac mae’n rhaid ystyried y ffigyrau yn y tymor hir. Rydan ni wedi gweld bygythiad i 300 o swyddi yn swyddfa basborts Casnewydd a 180 yn Tata yn Shotton yn ystod yr wythnos yma yn unig.
“Mae Price Waterhouse Coopers wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain y gallai 52,000 o swyddi yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat ddiflannu yng Nghymru.
“Unwaith eto rydw i’n galw ar weinidogion yn Llundain i ail-feddwl y modd y maen nhw’n mynd i’r afael gyda’r diffyg ariannol a pheidio â thorri’n rhy ddwfn yn rhy gyflym a rhoi cyfle i’r adferiad araf.
“Ein dull ni o helpu’r adferiad economaidd yng Nghymru yw targedu’r problemau systemig drwy fuddsoddi yn isadeiledd y wlad a gwella’r amgylchiadau ar gyfer busnesau.”