Colled drom ond perfformiad gwell gan dîm Brian Flynn oedd heb 11 o chwaraewyr. Sut oedd y perfformiadau unigol felly? Owain Schiavone sy’n asesu:
Wayne Hennessey – Er gwaethaf codi’r bêl o’i rwyd ar bedwar achlysur, fe gafodd gôl geidwad ifanc Wolves gêm dda gan arbed ei dîm sawl gwaith. Roedd yn agos i arbed y gic o’r smotyn hefyd gan ddyfalu’n gywir, ond roedd gormod o bŵer ar yr ergyd. Doedd dim y gallai wneud am y goliau. (8 allan o 10)
Darcy Blake – Roedd yn edrych yn gyfforddus iawn yn yr hanner cyntaf, ond rywfaint ar fai am ail gôl y Swistir gyda thacl wân ar ymyl y cwrt. Darparodd groesiad da i roi cyfle i Andy King wedi pum munud o’r ail hanner, ond funud yn ddiweddarach roedd fel petai’n cysgu, ac oni bai a arbediad gwych Hennessey byddai Stocker wedi sgorio. Penderfynodd Flynn ei eilyddio’n syth. 5/10
Danny Collins – Mae’n dda ei weld nôl yng ngharfan Cymru, ond mae’n anodd gweithio’r boi allan. Mae wedi sefydlu ei hun fel chwaraewr Uwch Gynghrair bellach, ond mae’n gwneud rhai camgymeriadau elfennol – yr enghraifft orau neithiwr oedd caniatáu i’r bêl fownsio lle gallai fod wedi penio’n glir, gan roi cyfle i Stocker. Digon soled fel arall, ond angen cynnig mwy o gefnogaeth i Bale. 6/10
James Collins – Heb fod ar ei orau yn y ddwy gêm ddiwethaf, ond yn well neithiwr gyda Williams wrth ei ochr. Roedd ei ymgais i daclo Derdiyok wrth i hwnnw greu ail gôl Stocker yn un blinedig. Mae’n siŵr y bydd yn falch mynd nôl i Aston Villa ar ôl wythnos anodd. 6/10
Andrew Crofts – Dewis annisgwyl yng nghanol y cae ond wedi bod yn chwarae’n dda i’w glwb, Norwich, ac fe ychwanegodd ychydig o gythraul i ganol cae Cymru. Diolch i bwysau cyson Crofts, ychydig iawn o le i greu gafodd canol cae y Swistir a’i dacl gadarn arweiniodd at gôl Cymru. 7/10
Ashley Williams – Mae’n siŵr bod pawb, yn cynnwys Williams ei hun, yn falch o’i weld nôl yng nghanol yr amddiffyn ar ôl hunllef yng nghanol cae yn erbyn Bwlgaria. Roedd rywfaint ar fai am y gôl gyntaf gyda sialens wan yn yr awyr, ond gwnaeth yn iawn trwy flocio ergyd Streller oedd yn edrych fel gôl. Un arall fydd yn falch i ddychwelyd i’w glwb. 6/10
David Edwards – Llawer mwy prysur nag y mae wedi bod yn nwy gêm ddiwethaf Cymru. Mae wedi siarad yn ystod yr wythnos ynglŷn â’i awydd i weld Flynn yn rheoli’r tîm yn barhaol ac roedd ei ymdrech neithiwr yn profi hynny. Fe redodd, yn llythrennol, dros Gymru ond angen mwy o sglein ar ei gêm. 6/10
Andy King – yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru wedi cyfnod llwyddiannus yn y tîm dan-21 gyda’i glwb Leicester. Gêm ddigon da chwarae teg, gan edrych i gefnogi Church yn yr ymosod ar bob cyfle. Fe allai fod wedi gwneud mwy â’r hanner cyfleoedd a gafodd, ond digon o botensial. 7/10
Simon Church – Penderfyniad dewr gan Flynn i’w ddewis yn lle Morison yn yr ymosod. Roedd y diffyg ‘dyn mawr’ yn y llinell flaen yn amlwg yn nhactegau Cymru wrth iddyn nhw chwarae pêl-droed llawer gwell ac adeiladu’n raddol. Fe gafodd bedwar cyfle da, a dylai fod wedi sgorio’r olaf. 6/10
David Vaughan – Un o chwaraewyr pwysicaf a mwyaf cyson Cymru ar hyn o bryd. Mae’r gŵr o Abergele wastad yn chwilio am y bêl, a prin ei fod fyth yn colli’r meddiant. Rhyngddo fo a Bale, lawr yr asgell chwith y daeth y mwyafrif o gyfleoedd Cymru. 8/10
Gareth Bale – Beth allwch chi ddweud am y boi yma? Roedd y Swistir yn amlwg wedi ei dargedu, gan roi dau i’w farcio am y mwyafrif o’r gêm a throseddu’n ei erbyn yn gyson. Er hynny, Bale oedd chwaraewr gorau Cymru eto gan greu nifer o gyfleoedd a phrofi’n fygythiad bob tro yr oedd yn cael y bêl. Fe gymerodd ei gyfle’n dda i sgorio ei drydedd gôl dros ei wlad. 9/10
Eilyddion:
Ribeiro (yn lle Blake ’54) – Digon cadarnhaol ond braidd yn naïf i ildio’r gic o’r smotyn. 5/10
Morison (yn lle Edwards ’77) – Prin ei fod wedi cyffwrdd y bêl. 3/10
MacDonald (yn lle Vaughan ’88) – Ddim ar y cae’n ddigon hir i farnu.