Syrthiodd diweithdra dros Brydain gyfan 20,000 dros y tri mis diwethaf, ond mae nifer y bobol sydd yn ddi-waith ers dros flwyddyn wedi cynyddu i’r cyfanswm uchaf ers 13 mlynedd, datgelwyd heddiw.

Syrthiodd di-weithdra 12,000 i 118,000 yng Nghymru, cwymp o 8.2%. Dim ond de orllewin Lloegr a gorllewin canolbarth Lloegr welodd cwymp mwy.

Cynyddodd nifer y bobol ar y dôl 5,300 ym mis Medi, gan gyrraedd 1.47 miliwn, yr ail gynnydd misol yn olynol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Serch hynny syrthiodd cyfanswm y bobol sy’n ddi-waith i 2.45 miliwn yn y tri mis tan fis Awst, y cyfanswm isaf eleni.

Yn ôl yr ystadegau roedd hynny bron yn gyfan gwbl oherwydd pobol 16 i 17 oed yn dod o hyd i waith, hyfforddiant neu addysg.

Cynyddodd diweithdra ymysg merched 36,000 dros y tri mis diwethaf i dros filiwn, a syrthiodd nifer y swyddi gwag ar draws yr economi 30,000 i 459,000, y cwymp chwarterol mwyaf ers dechrau 2009.

Cynyddodd nifer y bobol allan o waith ers dros flwyddyn 27,000 ar y tri mis olynol, gan gyrraedd 821,000, y cyfanswm mwyaf ers dechrau 1997.

Yn y cyfamser cynyddodd nifer y bobol mewn gwaith 178,000 i 19.16 miliwn, y cynnydd mwyaf ers blwyddyn.

Mae 241,000 yn fwy o bobol mewn gwaith nag oedd ar ddechrau’r flwyddyn, ond 270,000 yn is nag ar ddechrau’r dirwasgiad.

“Mae cynnydd arall mewn cyflogaeth yn gam yn y cyfeiriad cywir ond mae’n amlwg bod angen canolbwyntio ar adfer yr economi a lleihau’r diffyg ariannol,” meddai’r gweinidog swyddi, Chris Grayling.