Mae S4C wedi ennill gwobr o fewn y diwydiant darlledu chwaraeon yng Ngwobrau Georges Bertellotti Golden Podium, a gynhaliwyd yn ystod cynhadledd Sportel ym Monaco.
Daeth S4C i’r brig yn y categori Y Trêl Orau yn y seremoni gyda thrêl a ddefnyddiwyd i hyrwyddo rhaglenni criced a rygbi’r Sianel ym mis Mehefin.
Roedd yr hysbyseb yn hyrwyddo darllediadau’r Sianel o gemau criced ugain pelawd Morgannwg ac uchafbwyntiau rygbi o daith haf Cymru i Seland Newydd.
Gwelwyd dyfarnwyr criced yn ail greu’r Haka ond yn defnyddio arwyddion dyfarnwyr criced wrth herio rhai o wynebau adnabyddus carfan rygbi Cymru, gan gynnwys Adam Jones, Jamie Roberts ac Alun-Wyn Jones.
“Mae’r gwobrau yma yn uchel eu clod o fewn y diwydiant darlledu chwaraeon ac mae’r gydnabyddiaeth i waith hyrwyddo S4C yn arbennig,” meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C.
“Mae’r wobr ryngwladol hon yn gwobrwyo dychymyg, sgil ac ymroddiad y talent creadigol sydd wedi gweithio ar y trêl yma.”
Gallwch wylio’r clip ar wefan You Tube.